P-04-662 Mae’n anodd amgyffred sut y byddai bywyd wedi bod heb fy Ngweithiwr Cymorth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jago Lewis ar ôl casglu 664 Llofnod.
Ar ôl dwy flynedd o gymorth caled, heriol ac eto, a roddodd foddhad, gan fy ngweithiwr cymorth, rwyf heddiw'n astudio yn y Brifysgol ac yn byw bywyd sy'n llawn cariad, gobaith, hapusrwydd a chwerthin. Rwy'n ceisio rhoi fy hun mewn sefyllfa lle gallaf roi bywyd da i fy nheulu. Fy ngweithiwr cymorth yw fy nghadarnhad dyddiol i 'Fyw fy Mreuddwydion' o hyd.
Noddir y swydd gan y Rhaglen Cefnogi Pobl. Heb y rhaglen, ni fyddwn i a fy nheulu wedi cael y cymorth hwnnw a newidiodd ac a achubodd ein bywydau.
Hoffwn i Gymru gyfan wybod beth mae arian Cefnogi Pobl yn ei wneud. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i'w gefnogi ac ymrwymo i'w ddiogelu yn y dyfodol, fel y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn cael yr un math o gymorth i arbed eu bywydau ag y cefais i.
Rwy'n ddiolchgar o'r Rhaglen Cefnogi Pobl. Bu o gymorth i arbed fy mywyd i. Os ydych am sicrhau y bydd yr un cymorth ar gael i eraill bob amser, llofnodwch fy neiseb.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru